SL(6)473 – Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2024

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn egluro iaith dechnegol mewn deddfwriaeth ddomestig bresennol ar gyfer biffenylau polyclorinedig. Yn 2020, diwygiwyd Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2000 ("Rheoliadau 2000") i adlewyrchu Confensiwn Stockholm newydd a gofyniad yr UE i gael gwared ar offer sy'n cynnwys cyfeintiau o fiffenylau polyclorinedig dros drothwy penodol cyn diwedd 2025. Yn dilyn hynny, tynnodd rhanddeiliaid sylw at y ffaith bod rhywfaint o amwysedd yn yr iaith a gyflwynwyd i Reoliadau 2000 gan y diwygiadau hynny yn 2020.

Ystyrir bod y diwygiadau a wnaed gan Reoliadau 2024 yn angenrheidiol er mwyn rhoi eglurder i randdeiliaid ynghylch cyfeiriadau at gyfeintiau o fiffenylau polyclorinedig mewn offer, drwy gael gwared ar unrhyw amwysedd ynghylch pa ddarnau o offer y mae'n rhaid rhoi'r gorau i'w defnyddio erbyn terfyn amser 2025.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau gerbron Senedd Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig. Gwnaed y Rheoliadau yn Saesneg yn unig. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn datgan fel a ganlyn (ym mharagraffau 2.2 a 2.3):

Mae Rheoliadau 2024 yn cael eu gwneud ar sail gyfansawdd. Mae hynyn cael ei wneud i gynnal llyfr statud cyson ar gyfer busnesau sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Nid oes gwahaniaeth o ran polisi, ac mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau 2024 yn rhai i offeryn statudol Saesneg presennol sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr.  Mae'r diwygiadau yn egluro ystyr y rheoliadau presennol ac nid ydynt yn gyfystyr â newid polisi ar gyfer naill ai Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU.

Gan y bydd Rheoliadau 2024 yn destun craffu gan Senedd y DU, ni ystyrir ei fod yn rhesymol ymarferol i Reoliadau 2024 gael eu gwneud na'u gosod yn ddwyieithog.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Ebrill 2024